DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

 

Cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Cysylltiadau rhwng y DU a’r UE, 17 Chwefror 2022

DYDDIAD

10 Mawrth 2022

GAN

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi

 

 

Yn unol â’r Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol, gallaf hysbysu’r Aelodau y cafodd cyfarfod cyntaf y Grŵp Rhyngweinidogol ar Gysylltiadau rhwng y DU a’r UE ei gynnal ar 17 Chwefror 2022. Ar ôl gohirio cyfarfod a drefnwyd yn gynharach yr oeddwn i fod i'w fynychu, cafodd y cyfarfod hwn ei drefnu ar fyr rybudd, mewn tua dwy awr. O ganlyniad, nid oeddwn yn gallu cymryd rhan. Nid yw hon yn ffordd dderbyniol o gynnal cysylltiadau rhyngweinidogol, ac rwy’n disgwyl cael gwybod am gyfarfodydd y Grŵp Rhyngweinidogol ynghynt ac mewn ffordd fwy ystyrlon yn y dyfodol mewn perthynas â chyfarfodydd y Grŵp Rhyngweinidogol hwn yn y dyfodol.

 

Cafodd y cyfarfod ei gadeirio gan y Tâl-feistr Cyffredinol, Michael Ellis AS, a hefyd yn bresennol oedd Neil Gray ASA, Gweinidog Llywodraeth yr Alban ar gyfer Diwylliant, Ewrop a Datblygu Rhyngwladol; a’r Is-Weinidog Gary Middleton MLA o Weithrediaeth Gogledd Iwerddon. Gwnaeth uwch swyddog o Lywodraeth Cymru fynychu’r cyfarfod fel sylwedydd.

 

Canolbwyntiodd y cyfarfod ar yr agenda ar gyfer Cyd-bwyllgor y Cytundeb Ymadael a fyddai’n digwydd ar 21 Chwefror 2022.

 

Ar hyn o bryd, nid ydynt wedi cytuno ar ddyddiad ar gyfer cyfarfod nesaf y Grŵp Rhyngweinidogol.